Nehemiah 11:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mataneia hefyd mab Micha, fab Sabdi, fab Asaff, oedd bennaf i ddechrau tâl diolch mewn gweddi: a Bacbuceia yn ail o'i frodyr; ac Abda mab Sammua, fab Galal, fab Jedwthwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mataneia fab Micha (mab Sabdi ac ŵyr i Asaff), oedd yn arwain y gweddi ar mawl; Bacbwceia oedd ei ddirprwy; ac Afda fab Shammwa (mab Galal, mab Iedwthwn).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a Mataneia fab Meica, fab Sabdi, fab Asaff, arweinydd y mawl, oedd yn talu diolch yn ystod y gweddau, a Bacbuceia, yr ail ymysg ei frodyr, ac Abda fab Sammua, fab Galal, fab Jeduthun.