Nehemiah 12:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yng nghysegriad mur Jerwsalem y ceisiasant y Lefiaid o'u holl leoedd, i'w dwyn i Jerwsalem, i wneuthur y cysegriad â gorfoledd, mewn diolchgarwch, ac mewn cân, â symbalau, nablau, ac â thelynau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd wal Jerwsalem yn cael ei chysegru, dyma'r Lefiaid o bob man yn cael eu galw i Jerwsalem i gymryd rhan yn y dathlu. Roedden nhw yno yn canu caneuon o ddiolch i gyfeiliant symbalau, nablau a thelynau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth yr amser i gysegru mur Jerwsalem aethant i chwilio am y Lefiaid ymhle bynnag yr oeddent yn byw, a dod hwy i Jerwsalem i ddathlu'r cysegru llawenydd, mewn diolchgarwch a chn, gyda symbalau, nablau, a thelynau.