Nehemiah 12:43 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r diwrnod hwnnw yr aberthasant ebyrth mawrion, ac y llawenhasant: canys DUW a'u llawenychasai hwynt â llawenydd mawr: y gwragedd hefyd a'r plant a orfoleddasant: fel y clybuwyd llawenydd Jerwsalem hyd ymhell.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yn ddiwrnod o ddathlu a cafodd llawer iawn o aberthau eu cyflwyno. Roedd Duw wedi gwneud pawb mor hapus. Roedd y gwragedd a'r plant yno yn dathlu hefyd, ac roedd sŵn y dathlu yn Jerwsalem i'w glywed o bell.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A'r diwrnod hwnnw gwnaethant aberthau mawr a llawenychu, oherwydd yr oedd Duw wedi eu llenwi gorfoledd; ac yr oedd y merched a'r plant hefyd yn gorfoleddu. Ac yr oedd llawenydd Jerwsalem i'w glywed o bell.