Nehemiah 12:44 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r dwthwn hwnnw y gosodwyd gwŷr ar gelloedd y trysorau, ar yr offrymau, ar y blaenffrwyth, ac ar y degymau, i gasglu iddynt hwy o feysydd y dinasoedd y rhannau cyfreithlon i'r offeiriaid a'r Lefiaid: canys llawenydd Jwda oedd ar yr offeiriaid ac ar y Lefiaid y rhai oedd yn sefyll yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y diwrnod hwnnw cafodd dynion eu penodi i ofalu am y stordai, lle byddai cyfraniadau'r bobl yn cael eu cadw — y ffrwythau cyntaf, a'r degymau. Dyna lle byddai cyfraniadau'r bobl i'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cael eu casglu, yn ôl faint o gaeau oedd yn perthyn i bob pentref. Roedd pobl Jwda yn falch o'r offeiriaid a'r Lefiaid oedd yn gwasanaethu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y diwrnod hwnnw fe benodwyd dynion dros yr ystordai lle'r oedd y trysorau, y cyfraniadau, y blaenffrwyth a'r degymau, er mwyn casglu'r cyfrannau oedd yn ddyledus i'r offeiriaid a'r Lefiaid o'r meysydd o gwmpas y trefi; oherwydd yr oedd Jwda yn falch o wasanaeth yr offeiriaid a'r Lefiaid.