Nehemiah 12:47 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn nyddiau Sorobabel, ac yn nyddiau Nehemeia, holl Israel oedd yn rhoddi rhannau i'r cantorion, a'r porthorion, dogn dydd yn ei ddydd: a hwy a gysegrasant bethau sanctaidd i'r Lefiaid; a'r Lefiaid a'u cysegrasant i feibion Aaron.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly yn amser Serwbabel a Nehemeia fel llywodraethwyr, roedd pobl Israel i gyd yn rhoi cyfran i'r cantorion a'r gofalwyr, fel roedd angen bob dydd. Roedden nhw hefyd yn cadw cyfran i'r Lefiaid, ac roedd y Lefiaid yn cadw cyfran i'r offeiriaid, disgynyddion Aaron.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly yn nyddiau Sorobabel ac yn nyddiau Nehemeia yr oedd holl Israel yn rhoi cyfran ddyddiol i'r cantorion a'r porthorion. Yr oeddent yn neilltuo cyfran i'r Lefiaid, a'r Lefiaid yn neilltuo cyfran i dylwyth Aaron.