Nehemiah 13:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn y dyddiau hynny y gwelais yn Jwda rai yn sengi gwinwryfau ar y Saboth, ac yn dwyn i mewn ysgubau ŷd, ac yn llwytho asynnod, gwin hefyd, a grawnwin, a ffigys, a phob beichiau, ac yn eu dwyn i Jerwsalem ar y dydd Saboth: a mi a dystiolaethais yn eu herbyn ar y dydd y gwerthasant luniaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yr adeg yna hefyd dyma fi'n darganfod pobl yn Jwda oedd yn sathru grawnwin ar y Saboth. Roedden nhw'n llwytho asynnod a dod â'u cnydau i'w gwerthu yn Jerwsalem ar y Saboth — grawn, gwin, grawnwin, ffigys, a pob math o bethau eraill. Dyma fi'n eu ceryddu nhw y diwrnod roedden nhw'n gwerthu'r cynnyrch yma i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y dyddiau hynny gwelais ddynion yn Jwda yn sathru gwinwryf ar y Saboth, ac yn pentyrru grawn, ac yn llwytho asynnod gwin, grawnwin, ffigys, a phob math o feichiau, ac yn eu cario i Jerwsalem ar y dydd Saboth. Rhybuddiais hwy am werthu bwyd ar y dydd hwn.