Nehemiah 13:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan dywyllasai pyrth Jerwsalem cyn y Saboth, yr erchais gau'r dorau, ac a orchmynnais nad agorid hwynt hyd wedi'r Saboth: a mi a osodais rai o'm gweision wrth y pyrth, fel na ddelai baich i mewn ar ddydd y Saboth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fi'n gorchymyn fod giatiau Jerwsalem i gael eu cau pan oedd hi'n dechrau tywyllu cyn y Saboth, a ddim i gael eu hagor nes byddai'r Saboth drosodd. Yna dyma fi'n gosod rhai o'm dynion fy hun i warchod y giatiau a gwneud yn siŵr fod dim nwyddau yn dod i mewn ar y Saboth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, cyn dechrau'r Saboth, fel yr oedd yn nosi dros byrth Jerwsalem, gorchmynnais gau'r drysau, ac nad oedd neb i'w hagor cyn diwedd y Saboth. A gosodais rai o'm llanciau wrth y pyrth fel na chi dim ei gario i mewn ar y dydd Saboth.