Nehemiah 13:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a ddywedais wrth y Lefiaid, am iddynt ymlanhau, a dyfod i gadw y pyrth, gan sancteiddio'r dydd Saboth. Am hyn hefyd cofia fi, fy NUW, ac arbed fi yn ôl lliaws dy drugaredd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma fi'n dweud wrth y Lefiaid am fynd trwy'r ddefod o buro eu hunain, a dod i warchod y giatiau er mwyn cadw'r Saboth yn ddiwrnod sbesial, cysegredig. O Dduw, plîs cofia fy mod i wedi gwneud hyn. Dangos dy gariad rhyfeddol ata i drwy fy arbed i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A gorchmynnais i'r Lefiaid eu puro eu hunain a dod i wylio'r pyrth, er mwyn cadw'r dydd Saboth yn sanctaidd. Am hyn hefyd cofia fi, fy Nuw, ac arbed fi yn dy drugaredd fawr.