Nehemiah 13:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr ymrysonais â hwynt, ac y melltithiais hwynt; trewais hefyd rai ohonynt, ac a bliciais eu gwallt hwynt: a mi a'u tyngais hwynt trwy DDUW, gan ddywedyd, Na roddwch eich merched i'w meibion hwynt, ac na chymerwch o'u merched hwynt i'ch meibion, nac i chwi eich hunain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma fi'n dod â cwyn yn eu herbyn nhw. Dyma fi'n galw melltith arnyn nhw, yn curo rhai o'r dynion, a tynnu eu gwallt. A dyma fi'n gwneud iddyn nhw fynd ar lw o flaen Duw, “Dych chi ddim i roi eich merched yn wragedd i'w meibion nhw, na chymryd eu merched nhw yn wragedd i'ch meibion nac i chi'ch hunain!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ceryddais hwy a'u melltithio, a tharo rhai ohonynt a thynnu eu gwallt; gwneuthum iddynt gymryd llw yn enw Duw i beidio rhoi eu merched i feibion yr estron, na chymryd eu merched hwy i'w meibion nac iddynt eu hunain.