Nehemiah 13:26 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Onid o achos y rhai hyn y pechodd Solomon brenin Israel? er na bu brenin cyffelyb iddo ef ymysg cenhedloedd lawer, yr hwn oedd hoff gan ei DDUW, a DUW a'i gwnaeth ef yn frenin ar holl Israel; eto gwragedd dieithr a wnaethant iddo ef bechu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Onid dyma'r math o beth wnaeth i Solomon, brenin Israel, bechu? Doedd dim brenin tebyg iddo drwy'r gwledydd i gyd. Roedd yn annwyl yng ngolwg ei Dduw, a dyma Duw yn ei wneud yn frenin ar Israel gyfan. Ond dyma'r gwragedd o wledydd eraill yn gwneud hyd yn oed iddo fe bechu!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Onid o achos merched fel hyn," meddwn, "y pechodd Solomon brenin Israel? Ni fu brenin tebyg iddo ymysg yr holl genhedloedd, yn un yr oedd Duw yn ei garu, ac wedi ei wneud ganddo yn frenin ar Israel gyfan; eto fe wnaeth merched estron iddo yntau bechu.