Nehemiah 2:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r penaethiaid ni wyddent i ba le yr aethwn i, na pheth yr oeddwn yn ei wneuthur; a hyd yn hyn ni fynegaswn ddim i'r Iddewon, nac i'r offeiriaid, nac i'r pendefigion, nac i'r penaethiaid, nac i'r rhan arall oedd yn gwneuthur y gwaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd swyddogion y ddinas ddim yn gwybod ble roeddwn i wedi bod, na beth roeddwn i wedi bod yn ei wneud. Doeddwn i ddim wedi dweud wrth neb o'r Iddewon hyd yn hyn — yr offeiriaid, y bobl fawr na'r swyddogion, nac unrhyw un arall o'r gweithwyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni wyddai'r swyddogion i ble yr oeddwn wedi mynd na beth yr oeddwn yn ei wneud; hyd yma nid oeddwn wedi dweud dim wrth yr Iddewon na'r offeiriaid na'r penaethiaid na'r swyddogion na'r rhai a fyddai'n gyfrifol am wneud y gwaith.