Nehemiah 2:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond pan glybu Sanbalat yr Horoniad, a Thobeia y gwas, yr Ammoniad, a Gesem yr Arabiad, hyn, hwy a'n gwatwarasant ni, ac a'n dirmygasant, ac a ddywedasant, Pa beth yw hyn yr ydych chwi yn ei wneuthur? a wrthryfelwch chwi yn erbyn y brenin?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan glywodd Sanbalat o Horon, Tobeia, y swyddog o Ammon, a Geshem yr Arab am ein cynlluniau, dyma nhw'n dechrau gwneud hwyl ar ein pennau a'n henllibio ni. “Beth dych chi'n wneud? Ydych chi'n meddwl gwrthryfela yn erbyn y brenin?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd Sanbalat yr Horoniad, a'r gwas Tobeia yr Ammoniad, a Gesem yr Arabiad, gwatwarasant ni a'n dirmygu a gofyn, "Beth yw hyn yr ydych yn ei wneud? A ydych yn gwrthryfela yn erbyn y brenin?"