Nehemiah 2:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr atebais hwynt, ac y dywedais wrthynt, DUW y nefoedd, efe a'n llwydda ni; a ninnau ei weision ef a gyfodwn, ac a adeiladwn: ond nid oes i chwi ran, na chyfiawnder, na choffadwriaeth yn Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fi'n ateb, “Gyda help Duw byddwn ni'n llwyddo. Ei weision e ydyn ni, a dŷn ni'n mynd i ddechrau ailadeiladu'r ddinas yma. Does yna ddim lle i chi yma, a dych chi erioed wedi bod â hawl i Jerwsalem.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebais hwy a dweud, "Bydd Duw y nefoedd yn rhoi llwyddiant i ni, ac yr ydym ninnau, ei weision ef, yn mynd ati i adeiladu. Ond nid oes gennych chwi ran na hawl na braint yn Jerwsalem."