Nehemiah 2:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r brenin a ddywedodd wrthyf, a'i wraig yn eistedd yn ei ymyl ef, Pa hyd y bydd dy daith di, a pha bryd y dychweli? A gwelodd y brenin yn dda fy anfon i, a minnau a nodais iddo amser.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r brenin, gyda'i wraig yn eistedd wrth ei ymyl, yn gofyn, “Am faint fyddet ti i ffwrdd, a pryd fyddet ti yn ôl?” Gan fod y brenin yn barod i adael i mi fynd, dyma fi'n rhoi dyddiad iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai'r brenin wrthyf, a'r frenhines yn eistedd wrth ei ochr, "Pa mor hir fydd dy daith, a pha bryd y dychweli?" Rhoddais amser penodol oedd yn dderbyniol i'r brenin, a gadawodd yntau imi fynd.