Nehemiah 2:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llythyr at Asaff, ceidwad coedwig y brenin, fel y rhoddo efe i mi goed i wneuthur trawstiau i byrth y palas y rhai a berthyn i'r tŷ, ac i fur y ddinas, ac i'r tŷ yr elwyf iddo. A'r brenin a roddodd i mi, fel yr oedd daionus law fy NUW arnaf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hefyd, llythyr i Asaff, sy'n gofalu am goedwig y brenin, iddo roi coed i mi — coed i wneud trawstiau ar gyfer giatiau'r gaer sydd wrth ymyl y deml, waliau'r ddinas, a'r tŷ fydda i'n aros ynddo.” A dyma'r brenin yn rhoi caniatâd i mi, achos roedd hi'n amlwg fod Duw gyda mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a llythyr hefyd at Asaff, ceidwad y goedwig frenhinol, yn gofyn iddo roi coed imi i wneud trawstiau ar gyfer pyrth y palas sydd yn ymyl y deml, a muriau'r ddinas a'r tu375? y byddaf yn byw ynddo." Trwy ffafr fy Nuw cefais fy nymuniad gan y brenin.