Nehemiah 2:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y deuthum at y tywysogion o'r tu hwnt i'r afon, ac a roddais iddynt lythyrau y brenin. A'r brenin a anfonasai dywysogion y llu, a marchogion gyda mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fi'n mynd at lywodraethwyr Traws-Ewffrates, a cyflwyno'r dogfennau gefais gan y brenin iddyn nhw. Roedd y brenin wedi rhoi swyddogion o'r fyddin a marchogion i fynd gyda mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y brenin wedi anfon gyda mi swyddogion o'r fyddin a marchogion, a phan ddeuthum at lywodraethwyr Tu-hwnt-i'r-Ewffrates rhoddais iddynt lythyrau'r brenin.