Nehemiah 3:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Porth y glyn a gyweiriodd Hanun, a thrigolion Sanoa; hwynt‐hwy a'i hadeiladasant ef, ac a osodasant ei ddorau ef, ei gloeau, a'i farrau, a mil o gufyddau ar y mur, hyd borth y dom.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Chanŵn a pobl Sanoach oedd yn gweithio ar Giât y Dyffryn. Nhw wnaeth ei hailadeiladu, a gosod ei drysau, ei bolltau a'i barrau yn eu lle. Nhw hefyd wnaeth y gwaith ar y wal yr holl ffordd at Giât y Sbwriel — 450 metr i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
At-gyweiriwyd Porth y Glyn gan Hanun a thrigolion Sanoach; ailgodasant ef a gosod ei ddorau gyda'r cloeau a'r barrau.