Nehemiah 3:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Salum mab Col‐hose, tywysog rhan o Mispa, a gyweiriodd borth y ffynnon; efe a'i hadeiladodd, ac a'i todd, ac a osododd ei ddorau ef, ei gloeau, a'i farrau, a mur pysgodlyn Siloa, wrth ardd y brenin, a hyd y grisiau sydd yn dyfod i waered o ddinas Dafydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn Shalwn fab Colchose, pennaeth ardal Mitspa, oedd yn gweithio ar Giât y Ffynnon. Ailadeiladodd hi, rhoi to arni, a gosod y drysau, bolltau a barrau yn eu lle. A fe hefyd wnaeth ailadeiladu'r wal o Bwll Siloam (wrth ymyl y gerddi brenhinol) yr holl ffordd at y grisiau sy'n mynd i lawr o Ddinas Dafydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
At-gyweiriwyd Porth y Ffynnon gan Salum fab Colchose, rheolwr rhanbarth Mispa; fe'i hailgododd a rhoi to arno a gosod ei ddorau yn eu lle gyda'r cloeau a'r barrau; cododd fur Pwll Selach wrth ardd y brenin hyd at y grisiau sy'n arwain i lawr o Ddinas Dafydd.