Nehemiah 3:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jehoiada mab Pasea, a Mesulam mab Besodeia, a gyweiriasant yr hen borth; hwy a osodasant ei drawstiau ef, ac a osodasant i fyny ei ddorau, a'i gloeau, a'i farrau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ioiada fab Paseach a Meshwlam fab Besodeia oedd yn gweithio ar Giât Ieshana. Nhw wnaeth osod y trawstiau a'r drysau, y bolltau a'r barrau yn eu lle.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atgyweiriwyd yr Hen Borth gan Joiada fab Pesach a Mesulam fab Besodeia; gosodasant ei drawstiau a rhoi ei ddorau yn eu lle gyda'r cloeau a'r barrau.