Nehemiah 3:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gerllaw iddo ef y cyweiriodd Ussiel mab Harhaia, o'r gofaint aur. Gerllaw iddo yntau y cyweiriodd Hananeia, mab un o'r apothecariaid: a hwy a gyweiriasant Jerwsalem hyd y mur llydan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn roedd Wssiel fab Charhaia (aelod o Urdd y Gofaint Aur) yn atgyweirio'r darn nesaf, a Chananeia (aelod o Urdd y Gwerthwyr Persawr) yn atgyweirio'r darn ar ôl hwnnw. Nhw wnaeth drwsio wal Jerwsalem yr holl ffordd at y Wal Lydan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn ei ymyl ef yr oedd Usiel fab Harhaia, un o'r gofaint aur, ac yn ei ymyl yntau Hananeia, un o'r apothecariaid; hwy oedd yn trwsio Jerwsalem hyd at y Mur Llydan.