Nehemiah 4:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac o'r dydd hwnnw, hanner fy ngweision oedd yn gweithio yn y gwaith, a'u hanner hwynt oedd yn dal gwaywffyn, a tharianau, a bwâu, a llurigau; a'r tywysogion oedd ar ôl holl dŷ Jwda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O'r diwrnod hwnnw ymlaen roedd hanner y dynion ifanc oedd gen i yn adeiladu a'r hanner arall yn amddiffyn. Roedd ganddyn nhw arfwisg, ac roedden nhw'n cario gwaywffyn, tariannau a bwâu. Roedd y swyddogion yn sefyll tu ôl i bobl Jwda
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac o'r dydd hwnnw ymlaen yr oedd hanner fy ngweision yn llafurio yn y gwaith, a'r hanner arall gwaywffyn a tharianau a bwu yn eu dwylo ac yn gwisgo llurigau; ac yr oedd y swyddogion yn arolygu holl bobl Jwda