Nehemiah 4:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a ddywedais wrth y pendefigion, ac wrth y swyddogion, ac wrth y rhan arall o'r bobl, Y gwaith sydd fawr a helaeth, a nyni a wasgarwyd ar hyd y mur, ymhell oddi wrth ein gilydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma fi'n dweud wrth yr arweinwyr, y swyddogion a gweddill y bobl, “Mae gynnon ni lot o waith caled i'w wneud, a dŷn ni'n bell oddi wrth ein gilydd ar y wal.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywedais wrth y pendefigion a'r swyddogion a gweddill y bobl, "Y mae'r gwaith yn fawr ac ar wasgar, a ninnau wedi ein gwahanu ar y mur, pob un ymhell oddi wrth ei gymydog.