Nehemiah 4:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a lefarodd o flaen ei frodyr a llu Samaria, ac a ddywedodd, Beth y mae yr Iddewon gweiniaid hyn yn ei wneuthur? a adewir iddynt hwy? a aberthant? a orffennant mewn diwrnod? a godant hwy y cerrig o'r tyrrau llwch, wedi eu llosgi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fe'n dechrau dweud o flaen ei ffrindiau a milwyr Samaria, “Beth mae'r Iddewon pathetig yma'n meddwl maen nhw'n wneud? Ydyn nhw'n meddwl y gallan nhw wneud y gwaith eu hunain? Fyddan nhw'n offrymu aberthau eto? Ydych chi'n meddwl y gwnân nhw orffen y gwaith heddiw? Ydyn nhw'n meddwl y gallan nhw ddod â'r cerrig yma sydd wedi llosgi yn ôl yn fyw?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dechreuodd wawdio'r Iddewon yng ngu373?ydd ei gymrodyr a byddin Samaria a dweud, "Beth y mae'r Iddewon gweiniaid hyn yn ei wneud? A adewir llonydd iddynt? A ydynt am aberthu a gorffen y gwaith mewn diwrnod? A ydynt am wneud cerrig o'r pentyrrau rwbel, a hwythau wedi eu llosgi?"