Nehemiah 4:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedais hefyd y pryd hwnnw wrth y bobl, Lletyed pob un â'i was yn Jerwsalem, fel y byddont i ni yn wyliadwriaeth y nos, a'r dydd mewn gwaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peth arall ddwedais i bryd hynny oedd, “Dylai pawb aros dros nos yn Jerwsalem (y gweithwyr a'r rhai sy'n eu hamddiffyn). Byddan nhw'n gwarchod y ddinas dros nos, ac yn gweithio yn ystod y dydd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y pryd hwnnw hefyd dywedais wrth y bobl fod pob dyn a'i was i letya y tu mewn i Jerwsalem er mwyn cadw gwyliadwriaeth liw nos a gweithio liw dydd.