Nehemiah 4:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly myfi, a'm brodyr, a'm gweision, a'r gwylwyr oedd ar fy ôl, ni ddiosgasom ein dillad, ond a ddiosgai pob un i'w golchi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden ni i gyd yn cysgu yn ein dillad gwaith — fi a'm gweision, y gweithwyr a'r gwylwyr oedd gyda ni. Ac roedd pawb yn cario arf yn ei law bob amser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac nid oedd yr un ohonom, myfi na'm brodyr na'm gweision na'r gwylwyr o'm cwmpas, yn tynnu ein dillad; yr oedd gan bob un ei arf wrth law.