Nehemiah 5:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwythau a ddywedasant, Nyni a'u rhoddwn drachefn, ac ni cheisiwn ddim ganddynt; felly y gwnawn fel yr ydwyt yn llefaru. Yna y gelwais yr offeiriaid, ac a'u tyngais hwynt ar wneuthur yn ôl y gair hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma nhw'n ateb, “Gwnawn ni roi'r cwbl yn ôl, a stopio hawlio dim oddi arnyn nhw. Byddwn ni'n gwneud yn union fel rwyt ti'n dweud.” Yna dyma fi'n galw am offeiriaid a gwneud i'r bobl gyfoethog a'r swyddogion fynd ar eu llw y bydden nhw'n cadw eu gair.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedasant, "Fe'u rhoddwn yn l, ac ni ofynnwn iddynt am ragor; gwnawn fel yr wyt yn ei orchymyn." Yna gelwais ar yr offeiriaid i wneud iddynt addunedu i gadw eu haddewid;