Nehemiah 5:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a ysgydwais odre fy ngwisg, ac a ddywedais, Felly yr ysgydwo DUW bob gŵr o'i dŷ, ac o'i lafur, yr hwn ni chwblhao y gair hwn, ac felly y byddo efe yn ysgydwedig, ac yn wag. A'r holl gynulleidfa a ddywedasant, Amen: ac a folianasant yr ARGLWYDD. A'r bobl a wnaeth yn ôl y gair hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fi'n ysgwyd popeth o bocedi fy nillad, a dweud, “Dyma fydd Duw yn ei wneud i chi os fyddwch chi ddim yn cadw eich gair. Byddwch yn colli eich tai a'ch eiddo. Bydd yn eich ysgwyd chi a byddwch yn colli popeth!” A dyma pawb yn y gynulleidfa yn ateb, “Ia, wir! Amen!” ac addoli'r ARGLWYDD. Yna gwnaeth y bobl beth roedden nhw wedi ei addo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ysgydwais fy mantell a dweud, "Fel hyn bydded i Dduw ysgwyd o'i du375? ac o'i eiddo bob un sy'n gwrthod cadw'r addewid hon; bydded wedi ei ysgwyd yn wag." A dywedodd yr holl gynulleidfa, "Amen", a moliannu'r ARGLWYDD. Ac fe gadwodd y bobl at yr addewid hon.