Nehemiah 5:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac o'r dydd y gosodwyd fi yn dywysog iddynt hwy yng ngwlad Jwda, o'r ugeinfed flwyddyn hyd y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses y brenin, sef deuddeng mlynedd, ni fwyteais i na'm brodyr fara y tywysog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O'r diwrnod cyntaf y ces i fy ngwneud yn llywodraethwr Jwda — sef o'r ugeinfed flwyddyn i flwyddyn tri deg dau o deyrnasiad y brenin Artaxerxes (un deg dwy o flynyddoedd i gyd) — wnes i a'm teulu ddim bwyta'r bwyd oedd yn cael ei roi i'r llywodraethwr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn wir, o'r dydd y penodwyd fi yn llywodraethwr yng ngwlad Jwda, o'r ugeinfed hyd y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i'r Brenin Artaxerxes, sef cyfnod o ddeuddeng mlynedd, ni fwyteais i na'm brodyr ddogn bwyd y llyw-odraethwr.