Nehemiah 5:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond y tywysogion cyntaf, y rhai a fuasai o'm blaen i, fuasent drymion ar y bobl, ac a gymerasent ganddynt fara a gwin, heblaw deugain sicl o arian; eu llanciau hefyd a arglwyddiaethent ar y bobl: ond ni wneuthum i felly, rhag ofn DUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y llywodraethwyr o'm blaen i wedi gosod beichiau trwm ar y bobl, a chymryd bwyd a gwin oddi arnyn nhw ar ben y dreth o 40 darn arian. Roedd eu staff yn galed ar y bobl hefyd. Ond wnes i ddim ymddwyn felly, am fy mod i'n parchu Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bu'r llywodraethwyr blaenorol oedd o'm blaen i yn llawdrwm ar y bobl, ac yn cymryd ganddynt bob dydd fara a gwin gwerth deugain sicl o arian. Yr oedd eu gweision hefyd yn arglwyddiaethu ar y bobl. Ond ni wneuthum i ymddwyn fel hyn am fy mod yn ofni Duw.
Recommended Reading