Nehemiah 5:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedais hefyd wrthynt, Nyni yn ôl ein gallu a brynasom ein brodyr yr Iddewon, y rhai a werthasid i'r cenhedloedd; ac a ydych chwithau yn gwerthu eich brodyr? neu a werthir hwynt i ni? Yna y tawsant, ac ni chawsant air i ateb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedais yno, “Dŷn ni wedi gwneud popeth allwn ni i brynu'n ôl ein cyd-Iddewon sydd wedi eu gwerthu i'r cenhedloedd. A nawr dyma chi'n gwerthu eich pobl eich hunain i'ch gilydd!” Doedden nhw'n gallu dweud dim. Doedd ganddyn nhw ddim ateb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dweud, "Yr ydym ni, yn l ein gallu, wedi prynu ein cyd-Iddewon a werthwyd i'r cenhedloedd, ond yr ydych chwi'n gwerthu eich brodyr, a ninnau'n gorfod eu prynu'n l." Yr oeddent yn ddistaw heb air i'w ddweud.