Nehemiah 5:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a ddywedais, Nid da y peth yr ydych chwi yn ei wneuthur: oni ddylech chwi rodio mewn ofn ein DUW ni, o achos gwaradwydd y cenhedloedd ein gelynion?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma fi'n dweud, “Dydy beth dych chi'n ei wneud ddim yn iawn! Dylech fyw mewn ffordd sy'n dangos parch at Dduw. Fyddai ddim rhaid i chi ddiodde eich gelynion, y cenhedloedd, yn eich gwawdio chi wedyn!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddwn wrthynt, "Nid ydych yn ymddwyn yn iawn. Oni ddylech ofni ein Duw yn hytrach na gwaradwydd y cenhedloedd, ein gelynion?