Nehemiah 6:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a ddeuthum i dŷ Semaia mab Delaia, mab Mehetabeel, yr hwn oedd wedi cau arno; ac efe a ddywedodd, Cyfarfyddwn yn nhŷ DDUW, a chaewn ddrysau y deml: canys y maent yn dyfod i'th ladd di; a lliw nos y deuant i'th ladd di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna es i weld Shemaia fab Delaia ac ŵyr Mehetafél, oedd ddim yn gallu gadael ei dŷ. A dyma fe'n dweud, “Gad i ni gyfarfod yn y cysegr — cysegr Duw yn y Deml, a cloi ein hunain i mewn. Maen nhw'n dod i dy ladd di — dod i dy ladd di'n y nos.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan euthum i du375? Semaia fab Delaia, fab Mehetabel, oedd wedi ei gaethiwo i'w gartref, dywedodd wrthyf, "Gad i ni gyfarfod yn nhu375? Dduw, y tu mewn i'r cysegr, a chau drysau'r deml, oherwydd y maent yn dod i'th ladd, yn dod i'th ladd liw nos."