Nehemiah 6:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, gwybûm nad DUW a'i hanfonasai ef; ond llefaru ohono ef y broffwydoliaeth hon yn fy erbyn i: canys Tobeia a Sanbalat a'i cyflogasent ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd hi'n amlwg fod Duw ddim yn siarad trwyddo — Tobeia a Sanbalat oedd wedi ei dalu i roi'r broffwydoliaeth yna.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna sylweddolais nad Duw oedd wedi ei anfon, ond ei fod wedi proffwydo fel hyn yn ein herbyn am fod Tobeia a Sanbalat wedi ei lwgrwobrwyo.