Nehemiah 6:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu ein holl elynion ni hynny, a gweled o'r holl genhedloedd y rhai oedd o'n hamgylch, hwy a ofnasant, ac a lwfrhasant yn ddirfawr ynddynt eu hun: canys gwybuant mai trwy ein DUW ni y gwnaethid y gwaith hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd ein gelynion, a'r gwledydd o'n cwmpas, wedi dychryn a digalonni pan glywon nhw fod y gwaith wedi ei orffen. Allen nhw ddim gwadu fod Duw wedi ein helpu ni i wneud hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd ein holl elynion, a phan welodd yr holl genhedloedd o'n hamgylch, yr oedd y peth yn rhyfeddol yn eu golwg, a daethant i ddeall mai trwy gymorth ein Duw y cafodd y gwaith hwn ei wneud.