Nehemiah 6:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid hwynt‐hwy oll oedd yn ceisio ein hofni ni, gan ddywedyd, Eu dwylo hwy a laesant oddi wrth y gwaith, fel nas gwneir ef. Gan hynny cryfha yn awr, O DDUW, fy nwylo i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Ceisio'n dychryn ni roedden nhw, gan feddwl y bydden ni'n llaesu dwylo ac y byddai'r gwaith ddim yn cael ei orffen. Ond roedd hyn wedi fy ngwneud i'n fwy penderfynol fyth.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddent oll yn ceisio'n dychryn, gan dybio y byddem yn digalonni, ac na fyddai'r gwaith yn cael ei orffen. Ond yn awr cryfha fi!