Nehemiah 7:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ddinas oedd eang a mawr; ac ychydig bobl ynddi: a'r tai nid oeddynt wedi eu hadeiladu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd digon o le yn y ddinas, a dim llawer o bobl yn byw ynddi. Doedd bron ddim tai wedi eu hadeiladu ynddi bryd hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y ddinas yn fawr ac yn eang, ond ychydig o bobl oedd ynddi, a'r tai heb eu hailgodi.