Nehemiah 7:70 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhai o'r tadau pennaf a roddasant tuag at y gwaith. Y Tirsatha a roddodd i'r trysor fil o ddracmonau aur, deg a deugain o ffiolau, pum cant a deg ar hugain o wisgoedd offeiriaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma rai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu tuag at y gwaith. Y llywodraethwr — 8 cilogram o aur, 50 powlen, a 530 o wisgoedd i'r offeiriaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyfrannodd rhai o'r pennau-teuluoedd tuag at y gwaith. Rhoddodd y llywodraethwr i'r drysorfa fil o ddracmonau aur, pum deg o gostrelau a phum cant tri deg o wisgoedd offeiriadol.