Nehemiah 8:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, bwytewch y breision, ac yfwch y melysion, ac anfonwch rannau i'r hwn nid oes ganddo ddim yn barod; canys y mae heddiw yn sanctaidd i'n Harglwydd: am hynny na thristewch; canys llawenydd yr ARGLWYDD yw eich nerth chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ewch i ddathlu a mwynhau pryd o fwyd a diod felys, a cofiwch rannu gyda'r rhai sydd heb ddim. Mae heddiw'n ddiwrnod wedi ei gysegru i'r Meistr. Peidiwch bod yn drist — bod yn llawen yn yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth i chi!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe ddywedodd wrthynt, "Ewch, bwytewch ddanteithion ac yfwch win melys a rhannwch 'r sawl sydd heb ddim, oherwydd mae heddiw yn ddydd sanctaidd i'n Harglwydd; felly, peidiwch galaru, oherwydd llawenhau yn yr ARGLWYDD yw eich nerth."