Nehemiah 8:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ail ddydd, tadau pennaf yr holl bobl, yr offeiriaid, a'r Lefiaid, a ymgynullasant at Esra yr ysgrifennydd, i'w dysgu yng ngeiriau y gyfraith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna'r diwrnod wedyn dyma benaethiaid y claniau, yr offeiriaid a'r Lefiaid yn cyfarfod gydag Esra yr ysgrifennydd i astudio eto beth roedd y Gyfraith yn ei ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar yr ail ddiwrnod daeth pennau-teuluoedd yr holl bobl, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, at Esra yr ysgrifennydd er mwyn astudio geiriau'r gyfraith.