Nehemiah 8:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly y bobl a aethant allan, ac a'u dygasant, ac a wnaethant iddynt fythod, bob un ar ei nen, ac yn eu cynteddoedd, ac yng nghynteddoedd tŷ DDUW, ac yn heol porth y dwfr, ac yn heol porth Effraim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r bobl yn mynd allan a dod â'r canghennau yn ôl gyda nhw i godi llochesau iddyn nhw eu hunain — ar ben to eu tai, neu yn yr iard, yn iard y deml ac yn sgwâr Giât y Dŵr a Giât Effraim.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth y bobl allan i'w cyrchu, a gwnaethant bebyll iddynt eu hunain, pob un ar do ei du375? ac yn eu cynteddoedd ac yng nghynteddoedd tu375? Dduw ac yn y sgwr o flaen Porth y Du373?r ac yn y sgwr o flaen Porth Effraim.