Nehemiah 8:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A holl gynulleidfa y rhai a ddychwelasent o'r caethiwed, a wnaethant fythod, ac a eisteddasant yn y bythod: canys er dyddiau Josua mab Nun hyd y dydd hwnnw ni wnaethai meibion Israel felly. Ac yr oedd llawenydd mawr iawn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth pawb oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud ati i godi llochesau dros dro i fyw ynddyn nhw dros yr Ŵyl. Doedd pobl Israel ddim wedi gwneud fel yma ers dyddiau Josua fab Nwn. Roedd pawb yn dathlu'n llawen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth yr holl gynulleidfa a ddychwelodd o'r gaethglud bebyll, a byw ynddynt. Nid oedd yr Israeliaid wedi gwneud hyn o amser Josua fab Nun hyd y dydd hwnnw; a bu gorfoledd mawr iawn.