Nehemiah 8:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Esra a fendithiodd yr ARGLWYDD, y DUW mawr. A'r holl bobl a atebasant, Amen, Amen, gan ddyrchafu eu dwylo: a hwy a ymgrymasant, ac a addolasant yr ARGLWYDD â'u hwynebau tua'r ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Esra yn bendithio yr ARGLWYDD, y Duw mawr. A dyma'r bobl yn ateb, “Amen! Amen!” a codi eu dwylo. Yna dyma nhw'n plygu'n isel i addoli'r ARGLWYDD, a'i hwynebau ar lawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bendithiodd Esra yr ARGLWYDD, y Duw mawr, ac atebodd yr holl bobl, "Amen, Amen", gan godi eu dwylo ac ymgrymu ac addoli'r ARGLWYDD 'u hwynebau tua'r ddaear.