Nehemiah 8:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Nehemeia, efe yw y Tirsatha, ac Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd, a'r Lefiaid y rhai oedd yn dysgu y bobl, a ddywedasant wrth yr holl bobl, Y mae heddiw yn sanctaidd i'r ARGLWYDD eich DUW; na alerwch, ac nac wylwch: canys yr holl bobl oedd yn wylo pan glywsant eiriau y gyfraith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y bobl wedi dechrau crïo wrth wrando ar y Gyfraith yn cael ei darllen iddyn nhw. A dyma Nehemeia y llywodraethwr, Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd, a'r Lefiaid oedd yn rhoi'r esboniad, yn dweud, “Mae heddiw'n ddiwrnod wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. Peidiwch galaru a crïo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Nehemeia y llywodraethwr ac Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd, a'r Lefiaid oedd yn hyfforddi'r bobl, wrth yr holl bobl, "Y mae heddiw yn ddydd sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw; peidiwch galaru nac wylo." Oherwydd yr oedd pawb yn wylo wrth wrando ar eiriau'r gyfraith.