Nehemiah 9:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thi a wnaethost arwyddion a rhyfeddodau ar Pharo, ac ar ei holl weision, ac ar holl bobl ei wlad ef: canys gwybuost i'r rhai hyn falchïo yn eu herbyn hwynt. A gwnaethost i ti enw, fel y gwelir y dydd hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna gwnest wyrthiau rhyfeddol i daro'r Pharo a'i swyddogion, a pobl y wlad, am fod mor greulon. Ti'n enwog am y pethau yma hyd heddiw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaethost arwyddion a rhyfeddodau yn erbyn Pharo a'i holl weision a holl drigolion ei wlad, am dy fod yn gwybod iddynt ymfalcho yn eu herbyn; a gwnaethost enw i ti dy hun sy'n parhau hyd heddiw.