Nehemiah 9:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bara hefyd o'r nefoedd a roddaist iddynt yn eu newyn, a dwfr o'r graig a dynnaist iddynt yn eu syched; a thi a ddywedaist wrthynt, y deuent i etifeddu y wlad a dyngasit ar ei rhoddi iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhoist fara o'r nefoedd iddyn nhw, pan oedden nhw eisiau bwyd; a dod â dŵr o'r graig pan oedden nhw'n sychedig. Yna dwedaist wrthyn nhw am fynd i gymryd y tir roeddet ti wedi addo ei roi iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn eu newyn rhoddaist iddynt fara o'r nefoedd, a thynnu du373?r o'r graig iddynt yn eu syched. Dywedaist wrthynt am fynd i feddiannu'r wlad y tyngaist ti i'w rhoi iddynt.