Nehemiah 9:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a wrthodasant wrando, ac ni chofiasant dy ryfeddodau, y rhai a wnaethit ti erddynt; caledasant hefyd eu gwarrau, a gosodasant ben arnynt i ddychwelyd i'w caethiwed yn eu cyndynrwydd: eto ti ydwyt DDUW parod i faddau, graslon, a thrugarog, hwyrfrydig i ddicter, ac aml o drugaredd, ac ni wrthodaist hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwrthodon nhw wrando, ac anghofio'r gwyrthiau roeddet ti wedi eu gwneud yn eu plith nhw. Dyma nhw'n gwrthryfela, a dewis arweinydd i'w harwain nhw yn ôl i'r Aifft. Ond rwyt ti yn Dduw sydd yn maddau, rwyt ti mor garedig a thrugarog, mor amyneddgar ac mor anhygoel o hael! Wnest ti ddim hyd yn oed troi cefn arnyn nhw
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwrthodasant wrando, ac nid oeddent yn cofio dy ryfeddodau a wnaethost iddynt. Aethant yn ystyfnig a dewis arweinydd er mwyn dychwelyd i'w caethiwed yn yr Aifft. Ond yr wyt ti'n Dduw sy'n maddau, yn raslon a thrugarog, araf i ddigio a llawn ffyddlondeb, ac ni wrthodaist hwy.