Nehemiah 9:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Er hynny, yn dy aml dosturiaethau, ni adewaist ti hwynt yn yr anialwch: y golofn gwmwl ni chiliodd oddi wrthynt trwy y dydd, i'w harwain hwynt ar hyd y ffordd; na'r golofn dân trwy y nos, i oleuo iddynt, ac i ddangos y ffordd y cerddent ynddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Am dy fod ti mor drugarog, wnest ti ddim troi cefn arnyn nhw yn yr anialwch. Roedd y golofn o niwl yn dal i'w harwain yn y dydd, a'r golofn dân yn dal i oleuo'r ffordd iddyn nhw yn y nos.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yn dy drugaredd fawr ni chefnaist arnynt yn yr anialwch. Ni chiliodd oddi wrthynt y golofn gwmwl a'u tywysai ar hyd y ffordd liw dydd, na'r golofn dn liw nos, a oleuai'r ffordd a dramwyent.