Nehemiah 9:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly deugain mlynedd y porthaist hwynt yn yr anialwch, heb fod arnynt eisiau dim: eu gwisgoedd ni heneiddiasant, a'u traed ni chwyddasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ti'n eu cynnal nhw am bedwar deg mlynedd. Er eu bod yn yr anialwch, doedden nhw'n brin o ddim; wnaeth eu dillad ddim treulio, a'u traed ddim chwyddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am ddeugain mlynedd buost yn eu cynnal yn yr anialwch heb fod arnynt eisiau dim; nid oedd eu dillad yn treulio na'u traed yn chwyddo.