Nehemiah 9:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thi a roddaist iddynt freniniaethau a phobloedd, a rhennaist hwynt i gonglau. Felly hwy a feddianasant wlad Sihon, a gwlad brenin Hesbon, a gwlad Og brenin Basan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma ti'n rhoi teyrnasoedd a phobloedd iddyn nhw, a rhannu pob cornel o'r tir rhyngddyn nhw. Dyma nhw'n meddiannu tir Sihon, brenin Cheshbon, a tir Og, brenin Bashan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Rhoddaist iddynt deyrnasoedd a chenhedloedd, a rhoi cyfran iddynt ymhob congl. Cawsant feddiant o wlad Sihon brenin Hesbon a gwlad Og brenin Basan.