Nehemiah 9:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly y meibion a aethant i mewn, ac a feddianasant y wlad, a thi a ddarostyngaist drigolion y wlad, y Canaaneaid, o'u blaen hwynt, ac a'u rhoddaist yn eu llaw hwynt, eu brenhinoedd hefyd, a phobloedd y wlad, fel y gwnaent iddynt yn ôl eu hewyllys.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r disgynyddion yn mynd i mewn a'i gymryd. Ti wnaeth goncro'r Canaaneaid oedd yn byw yn y wlad. Ti wnaeth roi'r fuddugoliaeth iddyn nhw — iddyn nhw wneud fel y mynnon nhw â'r bobl a'u brenhinoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly fe aeth eu plant a meddiannu'r wlad; darostyngaist tithau drigolion y wlad, y Canaaneaid, o'u blaen, a rhoi yn eu llaw eu brenhinoedd a phobl y wlad, iddynt wneud fel y mynnent hwy.